Neil ac Emma Rose

Fferm Rhosyn

Emma ydw i, ac rydw i a’m gŵr Neil yn rhedeg fferm fach draddodiadol yn Sir Gâr ers 2007: Fferm Rhosyn. Erbyn hyn, mae ein coetiroedd yn cwmpasu ardal o tua 100 erw.

Mae ein moch Gloucestershire Old Spot yn rhydd i grwydro fel y mynnant yn y coetir, rhywbeth sy’n allweddol i’w blas arbennig yn fy marn i. Maen nhw’n creu blasau cryfach a chynnyrch amheuthun, diolch i’r ffaith eu bod yn pori ar amrywiaeth eang o fwynau a maethynnau o bridd y coetir. Mae’r brid yn arbennig iawn i ni gan ei fod nid yn unig yn cynhyrchu bacwn a chig porc heb eu hail, ond mae hefyd yn un o’n bridiau cynhenid; ac rwy’n awyddus iawn i’w warchod a’i gefnogi.

Mae rhoi sylw a gofal angenrheidiol i bob mochyn yn bwysig tu hwnt i mi, ac rwy’n credu bod hyn yn hanfodol i gynhyrchu cig porc mwy blasus sydd wedi ei fagu dan lai o straen. Ein nod yn Rhosyn Farm yw cynnig yr amgylchedd mwyaf naturiol posibl i’n holl foch. Mae ein hychod yn cael cyfnodau hir o seibiant gydol y flwyddyn, a’n moch bach yn cael eu hannog i ddiddyfnu’n naturiol.

Mae symud o’r ddinas i gefn gwlad yn golygu fy mod i’n gwerthfawrogi holl fanteision Cymru a’i hamgylchedd naturiol. Credaf fod gan borc o Gymru flas hollol unigryw, diolch i’r aer glanach a’r amodau iachach; ac mae ein cynnyrch o fri yn brawf o hyn. Mae ein selsig â blasau gwahanol wedi ennill chwe gwobr aur yn Ffair Aeaf Cymru, a chawsom y wobr gyntaf am ein bacwn a’r drydedd wobr yn y gystadleuaeth gyffredinol hefyd.

Mae cefnogi cynnyrch lleol yn rhoi cyfle i ddeall gwir darddiad ein bwyd. Mae’r galw am gynnyrch lleol wedi siapio ein tirwedd yng Nghymru ers cenedlaethau, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.