facebookPixel

Cyngor ar goginio iach

Porc Blasus logo
When choosing Ingredients Infographic

O olwythion porc talpiog i gaserols cynnes… gydag ychydig o gyngor a gwybodaeth, byddwch yn rhyfeddu faint o brydau blasus a iach y gallwch eu paratoi i chi a’ch teulu, gan ddefnyddio Porc Blasus.

Dyma ychydig o gyngor defnyddiol:

  • Wrth baratoi a choginio cig coch fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, mae’n werth defnyddio’r dulliau canlynol: grilio yn hytrach na ffrio; torri unrhyw fraster i ffwrdd; osgoi defnyddio olew ychwanegol a chael gwared â braster ychwanegol sydd wedi toddi.
  • Wrth brynu cig coch, chwiliwch am lai o fraster a llai o fraster dirlawn.
  • Mae tro-ffrio hefyd yn ffordd dda o goginio cig coch sydd heb lawer o fraster gan mai ychydig iawn o olew, neu ddim o gwbl, sy’n cael ei ychwanegu at y cig.
  • Am flas a sudd ychwanegol, mae cig sydd wedi ei farinadu hyd yn oed yn well ac yn helpu tyneru darnau caletach o gig.
  • Wrth wneud caserol neu stiw gallwch sgimio unrhyw fraster oddi ar yr wyneb cyn gweini.

Faint sy’n cael ei argymell i’w fwyta

Mae rheoli maint pryd yn hanfodol ar gyfer diet iech a chytbwys.

Mae’r GIG yn argymell bwyta hyd at 70g o gig coch wedi ei goginio a chig wedi ei brosesu bob dydd, sydd ychydig yn llai na 500g mewn wythnos. Argymhellir ein bod ni’n cyfyngu faint o gig wedi ei brosesu fel cig moch, ham, salami a chigoedd wedi eu mygu rydyn ni’n ei fwyta.

PORC HEALTHY Infographic

Dewis y dull coginio gorau

Bydd deall ychydig am gyfansoddiad y cig yn eich helpu i ddewis y dull gorau o goginio darn penodol – ydych chi’n ei goginio’n sydyn neu’n araf? Bydd hyn yn gwneud gwahanaieth mawr i’r blas a’r breuder.

Yn gyffredinol mae darnau o chwarthor blaen yr anifail yn tueddu i wneud mwy o waith, felly mae’r toriadau rydyn ni’n eu cael yno fel rheol yn wydn ac yn gallu cynnwys mwy o fraster, sy’n gweddu i ddull coginio arafach a llaith i wella’r blas a’r tynerwch. Mae hyn yn cynnwys toriadau fel y Coler (gwddf), ysgwydd a choesgyn.

Mae rhai o’r toriadau a gawn o’r canol neu’r pedreiniau’n tueddu i wneud llai o waith ac fel arfer maen nhw’n fwy brau. Mae hyn yn cynnwys y toriadau lwyn fel lwyn ganol, stêcs lwyn, golwythion a hefyd coes wedi’i thorri’n giwbiau mân. Mae’r rhain yn gweddu i ddulliau coginio cyflym fel grilio, ffrio, barbeciwio a rhidyllu. Mae toriadau mwy fel cymalau coesau, rag lwyn yn fwy addas ar gyfer rhostio sych, tra bod yr ysgwydd, y bol a’r asennau breision yn gweddu i ddulliau coginio arafach.

Ewch i’n canllaw toriadau i gael gwybodaeth fanylach.

Share This